Addysg Anghenion Arbennig

Mae’r Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg yn sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA) yn derbyn cyfle cyfartal ieithyddol o safbwynt addysg ddwyieithog.

Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gael ar gyfer yr holl ystod ac amrywiaeth o AAA. Mae gan ddisgyblion a’u rhieni fynediad i wasanaeth sydd yn gwbl ddwyieithog.

Amcanion y Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg

Nod y Polisi Iaith yw sicrhau bod holl ddisgyblion y sir yn meddu ar ddwyieithrwydd cytbwys er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o’r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni.

Er mai nod cyffredinol y polisi yw dwyieithrwydd, mae pwyslais yn cael ei roi ar y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar (hyd at ddiwedd CS) er mwyn gosod sylfeini cadarn ar gyfer datblygiad pellach. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd mwyafrif yr ysgolion yn cychwyn cyflwyno’r Saesneg yn ffurfiol ar ddiwedd CS. Yn y cyfnodau allweddol eraill, disgwylir i ysgolion gynllunio er mwyn datblygu gafael disgyblion ar y Gymraeg.

Mae hyn yn golygu bod y Gymraeg yn cael ei haddysgu fel iaith gyntaf yn ysgolion cynradd y sir.