Dull o ddysgu iaith ychwanegol yw ‘addysg drochi ieithyddol’ ble defnyddir yr iaith ychwanegol fel cyfrwng addysgu`r dosbarth. Mae addysg drochi bellach wedi'i sefydlu'n gadarn fel dull llwyddiannus ac effeithiol o ddysgu iaith ychwanegol. Ei nod yw datblygu safon uchel o gymhwysedd yn yr iaith.
Manteision Addysg Drochi
Mae ymchwil yn dangos bod disgyblion sydd wedi profi addysg drochi yn:
- rhagori yn academaidd (Gallagher& Hanna, 2002);
- gallu dysgu trydedd a phedwaredd iaith yn haws (Cenoz & Valencia, 1994);
- deall ac yn cofleidio diwylliannau eraill (Gallagher& Hanna, 2002);
- meddu ar well ymwybyddiaeth o hunaniaeth, diwylliant a theimlad o gymdeithas (Baker, 2003);
- magu mwy o hunan barch (Baker, 2003); a
- datblygu gwell sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol (Cummins, 2000).