Gweledigaeth a Chenhadaeth
- Gosod sylfaen gref i’r disgyblion yn y Gymraeg er mwyn eu galluogi i ymdoddi i’r gymdeithas ddwyieithog a chyfranogi’n llawn ym mhrofiadau a manteision addysg ddwyieithog.
- Cynorthwyo ysgolion cynradd ac uwchradd i weithredu Polisi Iaith Gwynedd.
Amcanion
- Darparu addysg drochi yn y Gymraeg i ddisgyblion sy’n newydd i Wynedd.
- Darparu addysg o safon uchel gan arbenigwyr ym maes addysg drochi.
- Darparu gwasanaeth cyfannol i ddisgyblion.
- Datblygu, meithrin a chynnal disgyblion.
- Datblygu’r Gymraeg drwy gyfrwng addysg, diwylliant, traddodiad, chwaraeon, cerddoriaeth a llenyddiaeth.
Llwyddiant
- Ceir cyswllt da rhwng yr ysgolion a’r canolfannau.
- Mae’r llwyddiant i’w weld yn amlwg pan ddychwela’r disgyblion i’w hysgolion a’u cymunedau gyda sylfaen gadarn yn y Gymraeg wedi tymor o ddysgu dwys.
- Er mwyn sicrhau dilyniant priodol yn yr ysgolion, bydd athrawon y canolfannau yn cynnig ôl–ofal i bob disgybl wedi iddynt ddychwelyd i’w hysgolion, a hynny mewn cydweithrediad ag athrawon yr ysgolion.